Lansiad y Grant Cymunedau Gwydn \ Resilient Communities Grant Launch

Published: Fri, 07/01/22

A fyddech cystal ag anfon hwn ymlaen a rhoi’r si ar led ymysg eich rhwydweithiau a phawb arall sydd â diddordeb

Mae’r e-bost hwn i rannu gwybodaeth am Grant y Rhaglen Cymunedau Gwydn newydd, ac i ddangos i ble y gallwch fynd i gael mwy o wybodaeth am y grant hwn.

Mae gan y Rhaglen Cymunedau Gwydn £2m o gyllid grant ar gael i helpu unigolion a sefydliadau i gynyddu cyfranogaeth cymunedau gyda byd natur i helpu i feithrin cymunedau gwydn.

Gwybodaeth allweddol:
  • Grant cystadleuol gwerth £2m ar gael dros ddwy flynedd. Cyflawni hyd at fis Ionawr 2024. Hawliad terfynol erbyn mis Mawrth 2024.
  • £10k yw’r isafswm sy’n gymwys (dros un i ddwy flynedd).
  • £125k yw’r uchafswm os yw’n cael ei gyflwyno o fewn un Blwyddyn Ariannol neu £250k mewn dwy Flynedd Ariannol.
  • I wneud cais am Gyllid, bydd angen i bartneriaid allanol wneud cais am hyn drwy gael rhif ffurflen gais ar wefan Grantiau Cymunedau Gwydn i gael mynediad at y ffurflen gais ar-lein
  • Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 19 Medi 2022
  • Ar agor i unrhyw ymgeisydd
  • Gall ymgeiswyr wneud cais ar draws sawl lleoliad
  • Byddwn yn edrych yn ffafriol ar geisiadau cydweithredol / ar y cyd
  • Rhaid iddo fynd i’r afael â’r gweithgareddau sydd yn y cwmpas  gan ddefnyddio’r ffynonellau tystiolaeth a awgrymir a chysylltu hyn â’r gweithgareddau rydym yn eu cefnogi; os gall ymgeiswyr ddangos yn glir eu bod yn mynd i’r afael â sawl thema, byddwn yn edrych ar hyn yn ffafriol
  • Rhaid i geisiadau ddangos gwaith a/neu fuddion ar lefel gymunedol

Ffynonellau tystiolaeth defnyddiol:
Yr hyn y byddwn yn ei Gefnogi gyda’r Cyllid:
  • Amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig ar gyfer cymunedau llai breintiedig sydd â llai o fynediad at fannau gwyrdd o ansawdd, sy’n aml yn byw mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd uchel a dwysedd poblogaeth uchel a allai gael eu heffeithio’n andwyol gan newid yn yr hinsawdd ac ansawdd aer gwael ac a allai ddefnyddio’r amgylchedd fel ased i ddod â chymunedau gwahanol at ei gilydd, mynd i’r afael ag unigrwydd ac allgáu cymdeithasol ac fel modd o ddatblygu sgiliau.
  • Ffyrdd creadigol o ailgysylltu pobl â natur a’u hamgylchedd lleol i wella iechyd corfforol a meddyliol, hyder, hunan-barch ac ‘ymddygiadau gwyrdd’.
  • Hyrwyddo iechyd a llesiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
  • Atebion sy’n seiliedig ar natur sy’n helpu cymunedau i deimlo’n fwy diogel.
  • Creu mwy o gyfleoedd i gael mynediad at fyd natur.
  • Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o, a chyfranogaeth a phrosesau penderfynu ar effeithiau’r hinsawdd ar raddfa gymunedol.
  • Gweithio i sicrhau bod gan gymunedau ymdeimlad o gysylltiad a grym gyda’u hamgylchedd lleol a bod ganddynt rôl weithredol o ran sut y caiff ei reoli a’i wella.
  • Creu cyfleoedd ar gyfer addysg a chymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion.

Dylech gyfeirio camau’r broses ymgeisio a phob cwestiwn ynglŷn â’r grant at: [email protected]
Neu ar gyfer unrhyw ymholiadau seiliedig ar leoedd, cysylltwch ag:
[email protected]
Caniatewch 48 awr ar gyfer ymateb cychwynnol
Please forward and spread the word with your networks and other interested parties

This email is to share information about the new Resilient Communities Programme Grant, and shows where you can go to get further information about this grant.  

The Resilient Communities Programme has £2m of grant funding available to help individuals and organisations increase community participation with nature to help build resilient communities.

Key information:
  • £2m competitive grant available over 2 years. Delivery up to January 2024. Final claim by March 2024
  • Minimum eligible amount £10k (over 1 to 2 years).
  • Maximum amount £125k if delivered in one Financial Year or £250k in two Financial Years
  • To apply for Funding, External partners will need to request this via the Resilient Communities Grants Website application form number to Access the online application form
  • Application deadline 19th September 2022
  • Open to any applicant
  • Applicants may apply across multiple places
  • Collaborative / joint applications will be looked upon favourably
  • Must address the activities in scope using the suggested evidence sources and link this to the activities we are supporting, if applicants can clearly evidence they are addressing multiple themes this will be looked upon favourably
  • Applications must demonstrate involvement and/or benefits at community level

Useful evidence sources:
What we will Support with the Funding:
  • Diversity and inclusion, particularly less advantaged communities that have less access to quality green spaces, often live in areas of flood risk and high population density which may be adversely affected by climate change and poor air quality and could use the environment as an asset to bring different communities together, tackle loneliness and exclusion and as a vehicle to develop skills.
  • Creative ways to reconnect people with nature and their local environment to improve physical and mental health, confidence, self-esteem and ‘green behaviours’.
  • Promoting health and wellbeing and tackle health inequalities.
  • Nature-based solutions that help communities to feel safer and more secure.
  • Creation of more opportunities for accessing nature.
  • Improving awareness and understanding of, and involvement in decision making on, climate impacts at community scale.
  • Work to ensure communities feel a sense of connection and empowerment with their natural environment and have an active role over how it is managed and improved.
  • Creating opportunities for education and involvement in citizen science

All grant queries and application process should be directed to: [email protected]
Or for any place-based enquiry contact:
[email protected]
Please allow 48 hours for an initial response